Cofnodion cyfarfod rhif 37 y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddyfrffyrdd
Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd
Dydd Mercher 11 Mehefin 2014
18.10
Aelodau’r Cynulliad yn bresennol:
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) (Ceidwadwyr Cymru, Mynwy)
Yn bresennol
Brenda Owen
Richard Owen – Grŵp Perchnogion Pysgodfa Teifi
David Fitzpatrick – Cynnal Cymru
Gwenda Owen – CTC
Margaret Gwalter – Cymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol
Brian Hancock – Cyngor Tref Rhisga
John Gwalter – Cymdeithas Camlas Abertawe
Tom Davies – Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Stephen Rowson
Chris Charters – British Outdoor Professionals Association
Nick Worthington – Glandŵr Cymru
Andrew Stumpf – Glandŵr Cymru
Laura Lewis – Glandŵr Cymru
Hazel Bowen – Glandŵr Cymru
Dechreuodd y cyfarfod am 18.15
Eitem 1: Cyflwyniad gan Rhian Jardine, Cyfoeth Naturiol Cymru.
Effaith newid yn yr hinsawdd ar Gymru yn y dyfodol
Amlinellodd Rhian Jardine rôl a chyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sydd ar fin dathlu blwyddyn o fodolaeth. Mae CNC yn dymuno deall effaith newid yn yr hinsawdd a bod yn esiampl o ran sut y mae’n rheoli tir a dŵr i addasu i’w effeithiau a’u lliniaru.
Mae’r cyflwyniad ar gael ar gais gan enquiries.wales@canalrivertrust.org.uk
Sesiwn holi ac ateb
Dr Mark Lang: A oes gan CNC gylch gwaith cymdeithasol?
Rhian Jardine: Oes, mae gan CNC gylch gwaith cymdeithasol ac mae’n gwneud gwaith cymunedol ar hyn o bryd
Nododd Brian Hancock fod caniatâd cynllunio ar orlifdiroedd yn amodol ar lifogydd ‘1 mewn 100 mlynedd’ ar hyn o bryd a bod caniatâd cynllunio yn cael ei roi fwyfwy er mwyn adeiladu ar orlifdiroedd. Hefyd, gofynnodd Brian Hancock a oes rôl i CNC ei chwarae drwy ddweud ‘na’ i ragor o dyrbinau gwynt ac ‘ie’ i ynni adnewyddadwy o ddŵr?
Soniodd David Fitzpatrickam fodel newydd o dyrbin a ollyngir i’r dŵr. Mae gogledd yr Alban yn treialu ‘tyrbin arnofiol’. Hefyd, dywedodd David Fitzpatrick fod yn rhaid inni bwysleisio pwysigrwydd peidio â defnyddio ynni yn y lle cyntaf. Nid yw’r ffordd y mae’r grid yn gweithio yn helpu’r ffordd yr ydym yn defnyddio neu ddosbarthu ynni.
Nick Worthington: Mae’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn gweithio’n agos gyda CNC i sicrhau bod adnoddau dŵr yn gynaliadwy a pheidio â chynyddu’r pwysau ar y cyflenwad dŵr pan roddir ystyriaeth i ymestyn y gamlas.
Eitem 2: Cyflwyniad gan Dr Mark Lang, Canolfan Adfywio Cymru .
Yr Ymagwedd ‘Lle Dwfn’ – symud tuag at gymunedau sy’n gynaliadwy yn gymdeithasol, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn amgylcheddol
Cyflwynodd Dr Mark Lang ganfyddiadau astudiaeth a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Nhredegar i geisio canfod ‘pa fath o economi a chymdeithas sydd angen inni eu creu er mwyn cyflawni cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol erbyn 2030?’
Mae’r cyflwyniad ar gael ar gais gan enquiries.wales@canalrivertrust.org.uk
Sesiwn holi ac ateb
Brian Hancock: beth sy’n digwydd i’r gwaith ymchwil hwn?
Dr Mark Lang: Bydd cais am gyllid yn cael ei gyflwyno i ddatblygu’r fethodoleg ymhellach ac ymestyn yr ymchwil. Y bwriad yw y bydd Llanymddyfri a Bae Colwyn yn ffocws ar gyfer y gwaith hwn oherwydd y gwahanol fathau o dlodi y gellir eu gweld yn yr ardaloedd hynny.
David Fitzpatrick: Beth yw’r ymateb lleol i’r gwaith ymchwil hwn?
Dr Mark Lang: Unwaith y bydd y gymuned yn deall cysyniad yr ymchwil, bydd yn dangos ei hymrwymiad drwy ymuno â’r broses, gan gynnwys y Bwrdd Iechyd Lleol, y cyngor lleol ac ati.
Andrew Stumpf: A oes gwersi i’w dysgu o’r astudiaeth y gall yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd helpu eu cyflawni?
Dr Mark Lang: Mae dyfrffyrdd yn rhannau annatod o’r gymuned a’r economi lleol. Dylem geisio bywiogi’r economi o fewn cymuned yn ogystal â chanolbwyntio ar fentrau Dinas Ranbarth mwy.
Eitem 4: Unrhyw Fater Arall
Dim
Dyddiad y cyfarfod nesaf: 15 Hydref 2014